Fe’ch gwahoddir yn gynnes i Tŷ Pawb ar ddydd Iau 26ain Mai rhwng 6-8pm, wrth i enillydd Dinas Diwylliant 2025 gael ei gyhoeddi’n fyw ar The One Show y BBC!
Croeso i bawb! Mae cofrestru am ddim yn hanfodol trwy Eventbrite
Ymunwch â ni yn yr ardal fwyd lle bydd y rhaglen yn cael ei darlledu’n fyw ar sgrin ANFERTH 200″!
Bydd ein masnachwyr bwyd a diod ar agor am y noson a gallwch ddisgwyl perfformiadau gwych gan grwpiau lleol.
Rydym wedi dod mor bell yn ystod ein taith Wrecsam2025, a beth bynnag ydi’r canlyniad rydym am ddod at ein gilydd i ddathlu’r gamp anhygoel hon i Wrecsam!
Mae’r gwaith caled a’r gefnogaeth i’r cais sydd wedi dod o’r gymuned wedi bod yn anhygoel, ac ni allwn aros i brofi’r foment hanesyddol hon gyda chi i gyd.
Y Lleoliad: Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BB
Mwy o wybodaeth: wrecsam2029@wrexham.gov.uk / 01978 292144