Ein cais am Ddinas Diwylliant y DU 2025.
Cais Dinas Diwylliant Y Du 2025
Cystadleuaeth a gaiff ei rhedeg gan DCMS, dyma’r tro cyntaf i geisiadau am Ddinas Diwylliant y DU fod ar agor i leoedd nad ydynt yn ddinasoedd, gan ganiatáu i drefi a rhanbarthau wneud cais – felly aethom amdani.
Rhaid i ymgeiswyr brofi y gallant roi diwylliant yng nghalon eu cynlluniau i yrru’u heconomi ymlaen. Mae hwn yn arbennig o bwysig wrth i ni edrych at adferiad o effaith y pandemig.
Fyddwn yn archwilio i sut y gall diwylliant ail-fywio ein hardaloedd cyhoeddus a’n ardaloedd siopa, a gweithio ar y ffyrdd orau o uwchraddio’n isadeiledd artistiaid a dinesig i gymryd mantais o’r holl fanteision y bu codi i fynu (levelling up) yn darparu.
Wrecsam yw’r unig ranbarth drwy Gymru sydd dal yn y gystadleuaeth. Rydym yn disgwyl y bydd ennill, ac dal y teitl Dinas Diwylliant yn cael trawiad positif ar yr ardal fwy eang ar draws Cymru ynghyd a’n cymdogion agos yn Sir Ddinbych, Sir Fflint, Powys, Sir Gaer ac Sir Amwythig ac Glannau Mersi.
Mae ein gweledigaeth ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2025 yn golygu rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau, yn seiliedig ar:
- Canolfan fasnach a digwyddiadau yng Ngogledd Cymru;
- Prif Ddinas Chwarae y DU
- Cartref pêl-droed yng Nghymru
- Arweinwyr mewn arloesedd
- Y Gymraeg a diwylliant Cymru
- Amrywiaeth ddiwylliannol sy’n datblygu
Yn ystod ein blwyddyn byddwn yn datblygu etifeddiaeth hirdymor ar gyfer ein dyfodol – defnyddio diwylliant fel catalydd i wella iechyd a lles, gwybodaeth leol a balchder, a gwell canlyniadau addysgol.
Da ni isio pawb i deimlo eu bod yn rhan o’r dathliad diwylliant y flwyddyn. Bydd digwyddiadau yn cael eu hel ledled y sir a chreu cyfleoedd i fod yn fwy o ran o’ch cymuned, a’r ardal fwy eang. Welwn ni chi yno!

Sut allaf fod yn rhan o’r cais?
Bu i Gyngor Wrecsam gyflwyno’r cais cychwynnol, ond bellach rydym angen i fusnesau lleol a sefydliadau gwirfoddol gymryd rhan, i helpu i hyrwyddo gwerthoedd a buddion y cais, a chynyddu cefnogaeth a diddordeb y cyhoedd.
Rydym yn edrych am fusnesau partner o ledled sir Wrecsam i ddod yn llysgenhadon cais.
Ni fydd dod yn llysgennad cais yn golygu unrhyw ymrwymiad ariannol. Bydd ond angen i chi hyrwyddo’r cais i’ch cwsmeriaid, staff a dilynwyr ar-lein yn ystod cyfnod y gystadleuaeth.
Cysylltwch trwy lenwi’r ffurflen gyswllt neu anfon e-bost i wrecsam2029@wrexham.gov.uk.
Yna byddwn yn anfon ein logo atoch yn ogystal â chanllawiau defnyddiol ar y ffordd orau o’i ddefnyddio.
Barn y gymuned leol
Rydym hefyd angen adborth gan gymunedau lleol, gan gynnwys pobl o bob grŵp oedran, ar y rhaglen arfaethedig o ddigwyddiadau. Bydd y safbwyntiau hyn yn helpu i sicrhau bod y digwyddiadau yn adlewyrchu’r swyddogaeth a wnânt i hunaniaeth y sir. Os hoffech roi adborth ar y rhaglen arfaethedig o ddigwyddiadau gadewch i ni wybod trwy lenwi ein ffurflen gyswllt.


Beth fydd yn digwydd nesaf?
#DyrchafwnDanGilydd
Yn wreiddiol roedd yna 20 cais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025, gwneir Wrecsam y rhestr hir o 8, cyn i’r cyhoeddiad ein bod wedi gwneud y rhestr fer gyda Southampton, Bradford ac Durham.
Roedd hwn yn newyddion gwych a fu’n gyrru ni ‘mlaen i ran olaf o’r cais.
Fyddwn yn gweiddi yn fwy uchel am be mae gan Wrecsam i gynnig, a pharhau i archwilio sut y gall codi i fyny (leveling up) yr ardal ymhellach. Ond da ni angen eich cymorth i wneud hyn
Siaradwch â’ch ffrindiau, siaradwch a’ch teulu, siaradwch â’ch cydweithwyr, rhannwch eich syniadau am y cais ar gyfryngau cymdeithasol. Mae popeth yn cyfri at greu awyrgylch a sŵn i Wrecsam
Bydd y feirniadaeth derfynol a chyhoeddiad yr enillydd yn cymryd rhan yn Fis Mai.