Prosiect Ysgolion ‘Fy Wrecsam’ Dinas Diwylliant 2025
Fel rhan o gais Dinas Diwylliant Wrecsam 2025, mae disgyblion o St. Christopher’s a’n naw Ysgol Uwchradd yn cael cyfle gwych i weithio gyda’r cyn Fardd Pobl Ifanc i Gymru Martin Daws. Bydd y prosiect yn cynnwys disgyblion o bob ysgol yn derbyn gweithdai barddoniaeth gair llafar, rhyngweithiol, hwyliog gyda’r bardd perfformio Martin, yn canolbwyntio ar y thema “Fy Wrecsam” yn edrych ar hunaniaeth leol a’r hyn y mae’n ei olygu i fyw yma. Bydd y prosiect yn annog disgyblion o grwpiau sy’n aml ar y cyrion ac sy’n agored i niwed i fynegi eu meddyliau a’u teimladau am fyw yn Wrecsam gyda’u gwaith yn ffurfio archif ddigidol ar wefan Tŷ Pawb.
Bwsiau Dinas Diwylliant
Ar ddydd Gwener y 14eg, dydd Sadwrn 15fed a dydd Sul 16eg Ionawr teithiodd dau fws Dinas Diwylliant Wrecsam o amgylch y sir, gan ymweld â thros 50 o leoliadau ar draws y Fwrdeistref, er mwyn codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r cais #Wrecsam2025. Roedd gan y bysiau berfformwyr ac artistiaid a oedd yn dod oddi ar y bws mewn gwahanol leoliadau am berfformiad byr, cyn neidio’n ôl ar y bws a mynd ymlaen i’r lleoliad nesaf.
Roedd y bysiau’n ffordd wych o ymgysylltu â chymuned gyfan Wrecsam, heb annog cynulleidfaoedd mawr na theithiau diangen.
Y perfformwyr a gymerodd ran oedd;
-
Côr Merched Academi Delta
-
Pumawd Pres NEW Sinfonia
-
Theatr Gerddorol Coleg Cambria
-
Luke Gallagher
-
Megan Lee
-
Andy Hickie
-
Dawnswyr Ieuenctid Academi Delta
-
Grwp Dawns Eleni Cymru



#Wrecsam2025: Crynodeb Grantiau
I gefnogi cais Dinas Diwylliant #Wrecsam2025, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn falch iawn o dderbyn dros 70 o geisiadau grant gan grwpiau cymunedol lleol, perchnogion busnes a darparwyr trydydd sector, a luniodd amrywiaeth wych o syniadau ar gyfer gweithgareddau i ddathlu’r diwylliant bywiog ac amrywiol yn y sir.
I bobl ifanc, bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys gweithdai sy’n addysgu sgiliau celfyddydau perfformio a masnach; gweithgareddau chwarae i blant; cystadleuaeth ffotograffiaeth i blant ysgol (gyda dosbarth meistr a gynhelir gan fyfyrwyr prifysgol lleol yn trosglwyddo eu gwybodaeth); a phrosiectau ysgol i greu antholeg o gerddi am Wrecsam, ac i ddylunio mosaig ar y thema “Beth mae Wrecsam yn ei olygu i ni?”
Er mwyn cydnabod ein treftadaeth leol falch, bydd prosiect i ail-greu Cwilt Teiliwr hanesyddol Wrecsam ar gyfer cenhedlaeth newydd yn cychwyn cyn bo hir; byddwn yn gweld Carnifal y Waun yn dychwelyd yn hirddisgwyliedig; Bydd Pyllau Plwm y Mwynglawdd yn croesawu gwesteion i gaffi ficer sydd newydd ei adnewyddu; ac ar gyfer y genhedlaeth hŷn, sesiynau crefftio mewn cartrefi gofal lleol, a noson wisgoedd arbennig ar thema’r Ail Ryfel Byd gyda band siglo i rolio’r blynyddoedd yn ôl!
Er mwyn dathlu cymuned amrywiol Wrecsam, bydd ein ffoaduriaid a’n ceiswyr lloches gwerthfawr yn croesawu sesiynau crefft a gweithdai entrepreneuraidd; bydd ein cymuned hip hop fywiog yn arddangos perfformwyr benywaidd ac anneuaidd; bydd cynhadledd cyfle cyfartal yn adeiladu ar gefnogaeth ar lawr gwlad i aelodau ymylol o’r gymuned; bydd gwirfoddolwyr lleol yn creu Gardd Synhwyraidd Awtistig; bydd digwyddiad pêl-droed cadair bŵer i dynnu sylw at amgylchedd cynhwysol Wrecsam ar gyfer chwaraeon anabledd; bydd y gymuned Bwylaidd leol yn cynnal diwrnod llawn o weithgareddau yn rhannu eu treftadaeth a’u traddodiadau, a byddwn yn dathlu mewn digwyddiad ymasiad arbennig gyda bwyd, ffasiwn a cherddoriaeth Affricanaidd a Chymreig.
Rydym hefyd mor gyffrous i weld arddangosfa ar gyfer cogyddion a bwytai Wrecsam, perfformiadau gan gorau a cherddorfeydd lleol sy’n dathlu ein treftadaeth Gymreig, arddangosfa o ddylunio a thirlunio arobryn, y digwyddiad “Wrexfest” sy’n cynnwys cerddoriaeth o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, a noson meic agored gyda phrif berfformiadau gan y 3 bardd presennol o Gymru yn rhannu llwyfan am y tro cyntaf erioed!
Gyda hyn i gyd i edrych ymlaen at, a chymaint mwy, rydym yn hynod falch o bawb ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam sydd wedi gwneud eu balchder, eu hangerdd a’u brwdfrydedd yn rhan o #Wrecsam2025.